MIRROR:Creative Services:2010:Branding:S4C Stationery:s4c_bbc_cymru_wales_stationery:stationery_bbc_template.tif

 

Newyddion Radio yng Nghymru – Nodyn Briffio gan y BBC i Bwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1.   Pwrpas

Mi roddodd y BBC dystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o’u hymchwiliad i Radio yng Nghymru. Yn ystod y sesiwn, mi holodd y Pwyllgor ynghylch gallu y BBC i eithrio o’i gwasanaethau radio FM ar y Rhwydwaith, yn bennaf ar gyfer Radio 1 a 2 yng Nghymru.

Mae’r nodyn hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor gan y BBC mewn ymateb i’r cwestiwn.

 

2.   Dosbarthiad

Mae’r heriau sylfaenol sy’n wynebu’r BBC o ran cyflwyno bwletin newyddion wedi ei optio yn faterion o natur dosbarthiad technegol.

Mae trosglwyddydd Wenfô yn darparu gwasanaeth FM ar gyfer oddeutu 1.5m o wrandawyr (0.63m o anheddau) yn Ne Orllewin Lloegr a 1.3m o wrandawyr (0.54m o anheddau) yng Nghymru.

Byddai rhaid i unrhyw newid golygyddol i’r allbwn o’r trosglwyddydd ddwyn i ystyriaeth yr ardal a wasanaethir ganddo. Mi fedrai’r BBC liniaru ar yr effaith ar oddeutu 0.2m o wrandwyr yn Lloegr drwy newid y ffynhonnell wraidd ar gyfer nifer o drosglwyddyddion FM sy’n ail-ddarlledu (serch byddai hyn yn ymrwymiad costus iawn) ond y tu hwnt i hynny byddai angen tonfeddi ychwanegol nad sydd, yn syml iawn, ar gael.

Mae’r BBC yn y gorffennol wedi, ar adegau prin, optio neu eithrio o donfedd FM sydd ar gael ledled y Deyrnas Gyfunol. Fodd bynnag, pan ddarlledwyd y rhaglenni hyn o Wenfô, roeddent yn cael eu clywed gan gynulleidfaoedd yng Nghymru a Gorllewin Lloegr gan ei bod yn amhosibl i gyfyngu’r signal i Gymru yn unig.

O ganlyniad i’r rhesymau hyn, roedd y rhaglen BBC Radio One Introducing in Wales  a ddaeth i ben yn 2011 i’w chlywed ar draws Cymru a De Orllewin Lloegr. 

 

3.   Casgliad

Mae’r BBC yn ystyried yn barhaus sut i wasanaethau’i chynulleidfaoedd yn well ac mae darparu Gwasanaethau Radio yn rhan fawr o hyn. Mae’r rhyngrwyd yn caniatáu i’r BBC gynnig gwasanaeth cynulleidfa wedi ei bersonoleiddio yn well a chyda rhwydwaith ddosbarthu addas ar draws rhwydweithiau sefydlog a  symudol 5G mewn lle, gall hyn gynnig ateb gwell i’r broblem o gynnig cynnwys wedi ei optio i gynulleidfaoedd y Rhwydwaith.

Yn y cyfamser, ac yn nghyd-destun yr adolygiad a ddisgwylir gan DCMS i wrando digidol, byddwn yn parhau i fonitro y ffordd orau o ddarparu ein gwasanethau  ac i geisio sicrhau gwelliannau lle bo hynny’n bosibl.

Nid yw’r nodyn hwn yn ystyried a fyddai gweithredu newid o’r fath yn cael ei ystyried yn newid sylfaenol i’r gwasanaethau hynny gan olygu caniatâd gan Ofcom.

Rhys Evans, Pennaeth Strategaeth BBC Cymru

Robin Holmes, Pennaeth Llwyfannau Dosbarthu, BBC Distribution